Rydych bellach wedi ystyried y ffyrdd y mae sefydliadau twristiaeth yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws gwahanol gyfryngau.
Bydd angen bellach i chi ddisgrifio mor fanwl â phosibl sut mae un sefydliad twristiaeth yn gwneud hyn.
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth a lunioch ar gyfer yr ymarferion eraill ac yn benodol y nodiadau gludiog a wnaethoch ar y tri hysbysfwrdd yn y gweithgaredd diwethaf.
Efallai hefyd yr ystyriwch gymharu’r ffyrdd y mae’ch sefydliad dethol yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws gwahanol gyfryngau. Gallai’r geiriau a’r ymadroddion yn y blwch isod eich helpu i wneud hyn.
Geiriau cysylltu sy’n dangos cymariaethau
- Yn ogystal
- Yn yr un modd
- Yn debyg
- Yr un mor
- Yr un fath â
- O’i gymharu â
- Hefyd
- Ar yr un pryd
Geiriau cysylltu sy’n dangos gwrthgyferbyniad
- Fodd bynnag
- Serch hynny
- Yn wahanol i
- Mewn gwrthgyferbyniad
- I’r gwrthwyneb
- Ar y llaw arall
- Er bod
- Yn y cyfamser
Gweithgaredd
Dylech allu disgrifio’n glir yn awr sut mae un sefydliad twristiaeth yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws gwahanol gyfryngau.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.3-Adnodd8.docx