A thechnoleg y ffonau clyfar a’r rhyngrwyd yn cael eu defnyddio mwyfwy, pam allai fod angen i sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid gael sgwrs ffôn?
Mae llawer o resymau.
Gweithgaredd
Gan ddefnyddio’r syniadau yn y diagram isod, eglurwch yn llawn pam allai fod angen i sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid ddefnyddio ffôn ac awgrymwch sut gellir ystyried bod hwn yn wasanaeth cwsmeriaid da.
-
Nid pawb sy’n berchen ar gyfrifiadur neu ffôn clyfar.
-
Mae rhai cwsmeriaid yn hoffi clywed llais dynol.
-
Efallai bydd gan gwsmeriaid anghenion arbennig yr hoffent eu trafod.
-
Efallai bydd gofyn gwybodaeth ychwanegol ar bobl.
-
Efallai bydd gan gwsmeriaid broblem yr hoffent ei thrafod.
-
Efallai bydd cwsmeriaid am wneud cwyn.
-
Efallai bydd cwsmer am newid cynllun ar y funud olaf neu efallai ei fod wedi’i oedi.
-
Efallai bydd cwsmer am wirio gwybodaeth sydd ar wefan.
-
Efallai bydd y cysylltiad â’r rhyngrwyd yn cael ei golli.
-
Ni chafwyd yr wybodaeth gan gwsmer neu mae wedi’i cholli.
-
Efallai bydd angen i’r sefydliad gysylltu â’r cwsmer mewn argyfwng.
-
Efallai bydd y cwsmer yn gofyn am bris arbennig neu ddisgownt.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.3-Adnodd6.docx