Ffyrdd o gyflawni amcanion
O fod wedi astudio’r adran ddiwethaf, byddwch yn deall bod sefydliadau twristiaeth, fel pob busnes, yn gorfod cynllunio ar gyfer y dyfodol drwy osod amcanion. Mae gan sefydliadau mwy o faint nifer o amcanion, a allai fod yn berthnasol ar gyfer cyllid, twf busnes, materion cymdeithasol neu amgylcheddol.
Mae’r adran yma yn canolbwyntio ar rai o’r dulliau sy’n cael eu defnyddio gan sefydliadau er mwyn cwrdd â’r amcanion sydd wedi eu gosod. Cofiwch, dydy’r amcanion ddim yn cael eu cyflawni bob amser. Mae amcanion yn rhywbeth rydych yn gobeithio eu cyflawni, ond efallai ni fyddwch yn cyrraedd yr amcan. Er enghraifft, mae clybiau pêl-droed mawr fel Chelsea neu Manchester United yn cychwyn bob tymor gyda’r amcan o ennill yr Uwch Gynghrair, ond efallai mai ail neu drydydd safle gaiff y clwb. Mae gan glybiau eraill amcan o aros yn yr Uwch Gynghrair, ond bob blwyddyn, mae tri chlwb yn disgyn i adran is.
Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth mawr wneud penderfyniadau pwysig iawn sy’n berthnasol ar gyfer eu hamcanion. Dychmygwch mai chi yw Prif Swyddog Gweithredol cwmni hedfan mawr. Bydd angen awyrennau newydd arnoch chi er mwyn cyrraedd amcanion fel cynyddu elw neu fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd drwy ddefnyddio’r awyrennau mwyaf modern. Sawl un ydych chi’n prynu os yw pob un yn costio tua £300,000,000!
Er mwyn cyrraedd amcanion o’r raddfa yma, mae angen ystyried amrywiaeth o ddulliau. Bydd cyfarfodydd lefel uchel yn cael eu cynnal, a bydd cyfrifiadau ariannol manwl yn cael eu gwneud.
Wrth gwrs, ni fydd sefydliadau twristiaeth llai o faint yn wynebu’r un fath o gwestiynau, ond mae dewis y dulliau cywir er mwyn cynorthwyo cyrraedd amcanion y sefydliad yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant.