Mae sefydliadau twristiaeth wedi gwneud defnydd ardderchog o dechnolegau newydd. Er enghraifft, doedd dim gwefannau 20 mlynedd yn ôl; yr unig opsiwn i archebu tocyn cwmni hedfan oedd drwy asiantaethau teithio. Er bod gan bobl gardiau credyd, doedd taliadau ar-lein neu deithio heb bapur ddim yn bodoli.
Roedd bron i bob cyfathrebiad rhwng sefydliadau twristiaeth â’u cwsmeriaid yn digwydd ar bapur; naill ai llythyrau a.y.b.. i gadarnhau bwciadau neu bapur ar ffurf llyfrynnau neu bamffledi i hyrwyddo cynhyrchion.
Mae mwyafrif o sectorau’r diwydiant twristiaeth yn gwneud defnydd o ystod o dechnolegau newydd. Un adran ble mae sefydliadau twristiaeth ar y blaen yw mewn datblygiadau reidiau parciau thema ac atyniadau. Teipiwch eiriau fel ‘Disney’ neu ‘Universal’ neu ‘Future developments’ mewn i beiriannau chwilio a byddwch yn darganfod sut mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i greu reidiau a phrofiadau â themâu o ffilmiau poblogaidd.
Mae parciau thema mawr y DU, fel Alton Towers a Pharc Thorpe hefyd yn dibynnu’n helaeth ar eu gwefannau a chyfryngau cymdeithasol er mwyn marchnata eu cynhyrchion ac i hysbysu eu cwsmeriaid.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.3-Adnodd5.docx