Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Adnabod y sector cywir

Mae sefydliadau twristiaeth a busnesau yn eang ac amrywiol. Mae rhai wedi dechrau’n fach ac wedi tyfu i rai mwy, tra bod eraill wedi aros yn gymharol fach. Amcan rhai yw gwneud elw, ond nid yw pob un yn anelu i wneud elw. Maen nhw i gyd yn gweithredu yn un o’r tri sector hyn – Preifat, Cyhoeddus neu Wirfoddol.

Gweithgaredd

Mae’r diffiniadau islaw wedi’u camosod. Ceisiwch roi'r diffiniad cywir wrth ochr y sector addas.