Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Maint a graddfa

Mae busnesau twristiaeth yn cael eu sefydlu mewn nifer o ffurfiau. Mae hyn fel arfer yn dibynnu ar faint a graddfa’r busnes.

Mae graddfa yn golygu'r ardal ble mae’r busnes yn gweithredu. Gall y raddfa fod yn gymhleth heddiw, gan fod y rhyngrwyd yn galluogi busnesau i weithredu yn genedlaethol a rhyngwladol. Felly, os yw busnes yn dymuno cynyddu eu graddfa, dylid ystyried nifer o ffactorau. Caiff rhai eu hadnabod yn y diagram isod.

factors-cym.png

Mae yna nifer o fusnesau twristiaeth rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cwmnïau hedfan
  • Grwpiau gwestyau
  • Adloniant & atyniadau
  • Allfeydd bwyd a diod

Gweithgaredd

Gallwch chi adnabod 12 busnes twristiaeth rhyngwladol – pedwar ar gyfer pob un o’r categorïau uchod?