Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Rhowch gynnig ar hyn 3

Mae yna dri senario wedi’u gosod islod yn profi eich dealltwriaeth chi o sefydliadau twristiaeth.

Gweithgaredd 1

Dewiswch ddau sefydliad arall o’r delweddau. Disgrifiwch pa fath o drafnidiaeth maen nhw’n ei gynnig.

Gweithgaredd 2

Mae darparwyr llety yn gydran bwysig o’r diwydiant twristiaeth gan eu bod yn darparu gwelyau i dwristiaid ac yn eu darparu gyda rhywle i fyw a chysgu am y cyfnod o amser sydd ei angen. Gall hyn amrywio o un noson ar gyfer person busnes i bythefnos ar gyfer teulu ar wyliau.

Ceisiwch adnabod math addas o lety o’r rhestr isod ar gyfer y mathau canlynol o dwristiaid.

  • Gwesty 5* 
  • Hostel
  • Parc carafanau
  • Travelodge
  • Gwely & Brecwast
  • Maes gwersylla
  • Caban ‘log’

Awgrymwch resymau i gefnogi eich dewis o lety.