Ffurfiau gwahanol o berchenogaeth.
Dylai’r dosbarth gael ei rannu i 4 grŵp.
Dewiswch un o’r busnesau dychmygol canlynol ar gyfer pob grŵp:
- Ceir Carter a’i feibion (partneriaeth)
- Arcêd Adloniant Amir (Cyf)
- Gwestai Highton (PLC)
- ‘Grant’s Guiding’ (unig fasnachwr)
Dychmygwch eich bod yn berchennog/berchenogion un o’r busnesau uchod. Cwblhewch y gweithgareddau canlynol, yna adroddwch yn ôl i’r dosbarth.
Gweithgaredd 1
Yn eich grŵp, crëwch gyflwyniad PowerPoint sydd yn:
- Cyflwyno eich busnes – defnyddiwch eich dychymyg!
- Arddangos ac yn egluro logo ar gyfer eich busnes
- Egluro’r manteision ac anfanteision sydd ynghlwm â’r math o berchenogaeth sydd gan eich busnes
- Egluro sut mae’r berchenogaeth yn effeithio ar eich busnes – a yw’r math penodol o berchenogaeth yn ei wneud yn fwy neu’n llai llwyddiannus?
Gweithgaredd 2
Yn eich grŵp, cyflwynwch y cyflwyniad i weddill y dosbarth.
Gweithgaredd 3
Meddyliwch am fusnesau twristiaeth yn yr ardal rydych yn byw.
Crëwch restr o ddeg busnes twristiaeth, a cheisiwch adnabod os ydynt yn Bartneriaethau, yn Gwmnïau Cyfyngedig, yn gwmnïau PLC neu yn unig fasnachwyr. Efallai na fyddwch yn sicr o bob un. Trafodwch eich canlyniadau gyda’ch cyfoedion.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.1-Adnodd4.docx