Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.1 Disgrifiwch anghenion gwahanol fathau o gwsmer

Cwsmeriaid presennol

Mae llawer o sefydliadau twristiaeth yn deall mor bwysig yw sicrhau bod cwsmeriaid yn dychwelyd i’r sefydliad am eu bod wedi cael gwasanaeth da.       

Mae sefydliadau twristiaeth yn cynnig amryw gynlluniau, cynhyrchion a gwasanaethau i’w cwsmeriaid presennol, cwsmeriaid sy’n dychwelyd a chwsmeriaid rheolaidd. Rhoddir gwahanol enwau i’r rhain.

Gweithgaredd

Ar gyfer pob un o’r termau isod, ceisiwch egluro beth yw’r term a rhoi enghraifft. (Efallai bydd angen i chi wneud ychydig o ymchwil i gael gwybod ystyr rhai o’r termau).

  • Cynllun ffyddlondeb
  • Agor yn gynnar/hwyr
  • Aelodaeth flynyddol
  • Uwchraddio
  • Cynigion arbennig
  • Archebu cynnar
  • Prisiau gostyngedig