Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.1 Disgrifiwch anghenion gwahanol fathau o gwsmer

Fy mhrofiadau twristiaeth

Meddyliwch am y profiadau a gawsoch chithau’n gwsmer sefydliadau twristiaeth, ac am y ffordd y mae’r profiadau hynny wedi newid wrth i chi dyfu i fyny.             

Efallai bydd y cwestiynau yn y blwch isod o gymorth i chi. Efallai yr hoffech ofyn i aelodau o’ch teulu eich atgoffa am eich profiadau cynnar.

Cwestiynau

Ble oedd eich gwyliau cyntaf y gallwch ei gofio?

A ydych wedi hedfan i gyrchfan gwyliau?         

A ydych wedi teithio i gyrchfan gwyliau drwy unrhyw fodd arall o gludiant?     

Pa fathau o lety twristiaid yr ydych wedi aros ynddyn nhw?

Pa ddinasoedd ac ardaloedd cefn gwlad yn y DU yr ydych wedi ymweld â nhw?

Pa barciau hamdden yr ydych wedi ymweld â nhw?

Beth yw eich hoff reidiau mewn parc hamdden? 

A oes gennych hoff draeth?  

A oes gennych unrhyw brofiadau o wasanaeth cwsmeriaid da neu wael?

Gweithgaredd

Pan fyddwch wedi meddwl am y cwestiynau yn y blwch a gofyn i aelodau o’ch teulu, ysgrifennwch am eich profiadau twristiaeth yn y ffrâm isod.