Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.1 Disgrifiwch anghenion gwahanol fathau o gwsmer

Cyflwyniad i’r Dysgwyr

Mae’n bwysig gwerthfawrogi bod ystod eang iawn o gwsmeriaid, sy’n defnyddio cynhyrchion y diwydiant twristiaeth. Efallai bydd cwsmeriaid yn unigolion neu’n grwpiau, o wahanol grwpiau oedran neu o wahanol ddiwylliannau. Mae gan rai cwsmeriaid fwy o arian i’w wario nag eraill. Bydd rhai cwsmeriaid yn ymweld â’r un sefydliad yn rheolaidd, ac eraill yn ymweld unwaith yn unig.

Bydd angen i gwsmeriaid wybod eu bod yn ddiogel a bod eu diogelwch wedi’i ystyried. Bydd gofyn amrywiaeth o wybodaeth arnynt am y sefydliad y maent yn ymweld ag ef – a hynny weithiau fisoedd ymlaen llaw.

Bydd angen i gwsmeriaid ag anghenion arbennig neu ychwanegol wybod y byddant yn cael y gofal priodol.

Yn yr adran hon, byddwch yn ymchwilio i’r ffordd y mae sefydliadau twristiaeth yn sicrhau y bodlonir anghenion eu holl gwsmeriaid.