Mae sefydliadau twristiaeth yn gwybod bod angen iddynt fodloni cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol ac, yn gynyddol, rhaid iddynt wneud hynny’n gyfreithiol.
Mae’r wybodaeth yn y blwch isod yn dangos rhai o’r camau a gymerwyd gan grŵp gwestai mawr i sicrhau bod ei adeiladau’n hygyrch i bob cwsmer.
Mae ein gwestai yn y DU yn cynnig ystod o gyfleusterau i westeion gan ystyried anabledd, ac yn eu plith:
- Lleoedd parcio Bathodyn Glas dynodedig
- Cyfleusterau hygyrch – bar, bwyty ac ystafelloedd cyfarfod
- Ystafelloedd ymolchi hygyrch
- Ystafelloedd gwely hygyrch
- Bwydlenni ar gael mewn print bras
- Dolenni sain
- Croeso i gŵn cymorth
Gweithgaredd
Ar gyfer pob mesur yn y blwch, eglurwch sut allai helpu cwsmeriaid sydd ag anghenion ychwanegol. (Efallai bydd angen i chi wneud ymchwil ychwanegol ar y rhyngrwyd i gael gwybod mwy am rai o’r mesurau).
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.1-Adnodd10.docx